#
Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:
Rhif y ddeiseb: P-05-799 Teitl y ddeiseb: Newid y Cwricwlwm Cenedlaethol a dysgu hanes Cymru, a hynny o bersbectif Cymreig, yn ein Hysgolion Cynradd, Uwchradd a’r Chweched Dosbarth Testun y ddeiseb: Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i newid y Cwricwlwm Cenedlaethol a dysgu hanes Cymru, a hynny o bersbectif Cymreig, yn ein Hysgolion Cynradd, Uwchradd a’r Chweched Dosbarth |
Adolygiad Llywodraeth Cymru o'r Cwricwlwm Cymreig a hanes
Ym mis Hydref 2012, sefydlwyd grŵp adolygu annibynnol, a gadeiriwyd gan Dr Elin Jones, i archwilio a thrafod datblygu’r Cwricwlwm Cymreig, addysgu hanes Cymru a'r adnoddau sydd ar gael i gefnogi'r addysgu hwnnw. Yn Y Cwricwlwm Cymreig, hanes a stori Cymru: Adroddiad terfynol (Medi 2013) gwnaed 12 o argymhellion yn ymwneud â'r dimensiwn Cymreig wrth ddatblygu cwricwlwm nesaf Cymru ac yn ymwneud â'r cwricwlwm hanes yn benodol.[HS(-RS1]
Daeth y Grŵp Gorchwyl a Gorffen i’r casgliad bod y rhaglen astudio bresennol ar gyfer hanes yn rhoi sylw priodol i hanes lleol a hanes Cymru ers y dechrau un, (pan gyflwynwyd y cwricwlwm cenedlaethol yn 1989). Ond:
profiad y tasglu yw bod nifer o ddysgwyr yn ysgolion Cymru yn dysgu mwy am hanes Lloegr nac am hanes eu bro a’u gwlad eu hunain, a hanes ehangach Prydain gyfan. Cred y tasglu hefyd nad oes llawer o sylw yn cael ei roi i wledydd eraill Prydain a bod hefyd tuedd i ganolbwyntio ar ystod cul o bynciau yn hanes Ewrop a’r byd
Cytunodd y grŵp fod y rhaglen astudio yn rhoi blaenoriaeth amlwg i hanes Cymru ym mhob cyfnod a astudiwyd yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3 (ac eithrio'r ymchwiliad i hanes diweddar ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3). Fodd bynnag, awgrymodd y dystiolaeth a oedd ar gael i'r panel nad oedd pob ysgol yn bodloni'r gofynion, a hynny am amryw o resymau.
Roedd argymhellion y grŵp yn cynnwys:
§ Wrth adolygu’r cwricwlwm cenedlaethol dylai’r rhaglen astudio gael ei ail-strwythuro, er mwyn rhoi arweiniad pendant ar y berthynas rhwng hanes lleol, Cymru, Prydain, Ewrop a’r byd ehangach. Y nod fyddai rhoi sylfeini cadarn i ddealltwriaeth hanesyddol dysgwyr tra’n ymestyn eu gorwelion; a
§ Dylai pob manyleb TGAU Hanes a gynigir yng Nghymru gynnwys elfen integredig a gorfodol o hanes Cymru.
Adolygiad yr Athro Donaldson o'r Cwricwlwm Cenedlaethol
Ym mis Mawrth 2014, cyhoeddodd Huw Lewis, y Gweinidog ar y pryd dros Addysg a Sgiliau, y byddai'r Athro Graham Donaldson yn cynnal adolygiad o'r cwricwlwm cenedlaethol yng Nghymru ac y byddai ei adolygiad yn ystyried argymhellion y Grŵp Gorchwyl a Gorffen.
Yn ei adroddiad ar y cwricwlwm, sef Dyfodol Llwyddiannus (Chwefror 2015), argymhellodd yr Athro Donaldson y dylai'r cwricwlwm newydd gael ei strwythuro ar sail chwe Maes Dysgu a Phrofiad. Yn unol â’r argymhellion ar gyfer y Cwricwlwm Cymreig, cadarnhaodd y dylai pob Maes Dysgu a Phrofiad gynnwys dimensiwn Cymreig a phersbectif rhyngwladol pan fo hynny'n briodol. [HS(-RS2]
Dyma’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad y mae'r Adolygiad yn eu hargymell ac a gafodd eu cynnwys wedyn gan Lywodraeth Cymru yn ei dogfen Cwricwlwm i Gymru: cwricwlwm am oes : [HS(-RS3]
§ Celfyddydau mynegiannol
§ Iechyd a lles
§ Dyniaethau
§ Ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu
§ Mathemateg a rhifedd
§ Gwyddoniaeth a thechnoleg.
Bydd hanes yn rhan o Faes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun ar gyfer cynllunio a datblygu’r cwricwlwm ac asesu ym mis Mehefin 2016. Yn ôl yr amserlen hon, dylai’r gwaith o gynllunio’r cwricwlwm newydd fod wedi’i gwblhau erbyn mis Mehefin 2017 a’r gwaith o gynllunio’r Meysydd Dysgu a Phrofiad erbyn mis Rhagfyr 2017. Fodd bynnag, yn ystod y broses graffu gyda'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ym mis Mehefin 2017 , dywedodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, y byddai'n parhau i adolygu’r amserlen hon.
Mewn datganiad ar 26 Medi 2017 cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet y byddai’r cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno’n statudol ym mis Medi 2022 yn hytrach na mis Medi 2021. I ddechrau, dim ond mewn ysgolion cynradd a Blwyddyn 7 y byddai’r cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno, ond byddai’n cael ei gyflwyno i ddisgyblion blwyddyn 8 yn 2023, blwyddyn 9 yn 2024, ac yn y blaen wrth i'r garfan symud drwy’r ysgol.
Cyn ei gyflwyno’n statudol, bydd y cwricwlwm newydd ar gael i ysgolion o fis Ebrill 2019 er mwyn cael adborth ac er mwyn ei dreialu a’i fireinio, ac yna caiff y fersiwn derfynol ei chyhoeddi i bob ysgol ei roi ar waith o fis Ionawr 2020 ymlaen.
Busnes y Cynulliad
Yn ei hateb i Gwestiwn Llafar y Cynulliad, ar 10 Mai 2017, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, Kirsty Williams:
Bydd hanes yn cael ei gynnwys ym maes dysgu a phrofiad y dyniaethau yn y cwricwlwm newydd, a bydd hyn yn rhoi cyfle newydd inni sicrhau y bydd y platfform hanes yn cynnwys dimensiwn Cymreig gwell a phersbectif rhyngwladol.
Aeth rhagddi i ddweud:
"gadewch i mi fod yn gwbl glir: mae llawer iawn, iawn o gyfleoedd yn y cwricwlwm presennol i blant ddysgu am eu cymunedau, yr effaith ar ddigwyddiadau rhyngwladol a sut y cafodd eu cymunedau eu heffeithio a’u newid. Gwn fod pryder, yn aml, ynglŷn â’r hyn y mae hanes Cymru yn ei gynnwys ar gyfer yr arholiad TGAU, ac yn aml, mae pobl yn mynegi pryderon fod y papurau’n ymwneud â hanes America, â hanes Ewrop, â’r ddau ryfel byd. Fe fyddwch yn gwybod y bydd y TGAU Hanes newydd yn barod i gael ei addysgu ym mis Medi eleni, ac unwaith eto, ceir cyfleoedd gwell i fyfyrwyr dreulio mwy o’u hamser yn ystyried eu hanes eu hunain ac effaith digwyddiadau rhyngwladol pwysig arno. "
Erthyglau yn y cyfryngau
Mewn erthygl ar wefan BBC Cymru ar 9 Medi 2015, dywedodd Dr Elin Jones, cadeirydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Cwricwlwm Cymreig, hanes a stori Cymru, fod disgyblion yn cael eu 'hamddifadu' drwy beidio â chael eu haddysgu am hanes o bersbectif Cymreig. Roedd hi am weld llawer mwy o bwyslais yn cael ei roi ar hanes Cymru a dywedodd mai ychydig iawn o dystiolaeth oedd i awgrymu bod y pwnc yn cael ei addysgu'n dda mewn ysgolion. Dywedodd Dr Jones nad oedd dim wedi newid ers cyhoeddi adroddiad y Grŵp ddwy flynedd yn ôl.
Yn erthygl, dywedodd Dr Jones nad oedd adroddiad yr Athro Donaldson ar y cwricwlwm wedi rhoi digon o bwyslais ar hanes Cymru a bod y dimensiwn Cymreig wedi’i gyfyngu i iaith a diwylliant yn unig'.
Yn erthygl, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:
Roedd yr Athro Donaldson yn gwbl glir y dylid cynnwys elfen Gymreig ymhob ardal o Ddysgu a Phrofiad.
Mae hyn yn cyd-fynd ag adroddiad Cwricwlwm Cymreig Dr Elin Jones, sy'n argymell y dylai elfen Gymreig ymddangos ymhob pwnc, lle bo hynny'n berthnasol ac ystyrlon.
:
Mewn ymateb i'r awgrym y dylai rhwng 10 a 15 y cant o'r cwrs TGAU hanes ymdrin â Chymru, dywedodd bwrdd arholi CBAC y dylai pethau wella ar ôl cyflwyno’r cyrsiau newydd yn 2016.
Dywedodd Gareth Pierce, prif weithredwr CBAC y byddai'r fanyleb newydd yn golygu y caiff tair uned eu dysgu ac y byddai persbectif Cymreig yn sylfaenol i ddwy o’r tair uned.
Mae manyleb TGAU hanes (o 2017) yn cynnwys manylion am ddysgu hanes o bersbectif Cymreig:[HS(-RS4]
Wrth ddilyn y fanyleb hon, rhaid i ddysgwyr ystyried persbectif Cymreig os bydd cyfle i wneud hynny'n deillio'n naturiol o'r deunydd pwnc ac os byddai cynnwys y cyfleoedd hynny'n cyfoethogi dealltwriaeth dysgwyr o'r byd o'u cwmpas fel dinasyddion o Gymru yn ogystal â'r DU, Ewrop a'r Byd.
Yn Unedau 1 a 3 yn benodol bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gyfeirio at effeithiau newid hanesyddol ar Gymru neu ar bersbectif Cymreig. Bydd asesiadau Uned 1 yn cynnwys cwestiynau gorfodol yn gofyn am wybodaeth a dealltwriaeth o Hanes Cymru. Mae'r asesiadau Uned 3 yn defnyddio thema wrth drafod datblygiad hanesyddol. Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr ddefnyddio'r cyd-destun Cymreig yn eu hatebion i gwestiynau Uned 3 penodol.
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol. |
144 Adran 43 o’r Ddeddf. Nid yw hyn yn berthnasol os mai awdurdod lleol yw’r rhiant. 145 http://learning.gov.wales/docs/learningwales/publications/150909-reviews-toolkit-cy.pdf